Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee
Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans
WESP 10
Ymateb
gan : Cynghorydd Arfon Jones
Response from : Councillor Arfon Jones
Cwestiwn 1 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?
Yndyn pan mae na ymrwymiad gan awdurdodau i hyrwyddo addysg Gymraeg ond ddim mewn awdurdodau fel Wrecsam lle mae na ddiffyg arweiniad gwleidyddol a diffyg ysbrydoliaeth a dyheadau i gynyddu ag i ateb y galw. Mae allbynnau a thargedau Wrecsam yn wan ac yn annhebyg o gynyddu niferoedd ac mae diffyg cynllunio dybryd wedi bod.
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?
Mae pennaeth yr Adran Gymraeg yn LLC wedi cydnabod mewn ebost fod ganddo bryderon ynglyn a methiannau strategaeth Wrecsam ond ddim i weld yn gallu gneud dim i wella y sefyllfa. Mae angen i LLC allu ymyrryd yn effeithlon lle nad ydy awdurdodau yn gneud digon neu yn achos Wrecsam yn tanseilio addysg Gymraeg drwy neud toriadau a methu darparu llefydd digonnol.
Cwestiwn 2 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?
Mae newidiadau yn Wrecsam yn ara deg iawn yn digwydd. Mae penderfyniadau gwleidyddol i dorri grant Mudiad Meithrin ac i fethu darparu digon o lefydd yn meithrin a derbyn yn Medi 2015 wedi tanseilio y Strategaeth ag hygrededd yn allu yr Awdurdod i hyrwyddo addysg Gymraeg.
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?
Mae angen i LLC gael mwy o bwerau a dannedd i ymyrryd i orfodi awdurdodau i ddarpau addysg Gymraeg sydd yn gyfartal ac i weithredu lle mae’r iaith yn cael ei thrin yn llai ffafriol.
Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?
Dydy targedau Wrecsam ddim yn dangos uchelgais na dyhead a dydy cyrraedd targedau hawdd yn gneud dim i hyrwyddo ac i gynyddu y niferoedd sydd am addysg Gymraeg. Angen targedau ag allbynau caletach ac angen mwy o ymdrech i’w cyrraedd.
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?
Mwy o ymyrraeth gan LLC.
Cwestiwn 4 - Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*? (*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?
Nag ydy – ddim o gwbwl
Mae plant yn Wrecsam sydd am gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei trin yn annheg ag yn anghyfartal gan bolisi derbyn a gan bolisi cludiant. Mae yr awdurdod yn cuddio tu ol i’r ffaith fod addysg Feithrin ddim yn statudol i wrthod darpau gwasanaethau i’r sector Gymraeg e.e. llefydd mewn lleoliadau addas.
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?
Mae angen newid y Polisi Derbyn ar gyfer y Sector Gymraeg i rywbeth tebyg i’r blaenoriaethau yn y sector ffydd. Mae angen gneud y polisi cludiant i’r sector Gymraeg yn statudol ac mae angen darpau canran o arian 21C pob awdurdod yn arbennig ar gyfer y sector Gymraeg a dim arall. Mae hefyd angen cario allan Asesiad Effaith Cyfartaledd ar y ddarpariaeth Gymraeg ym mhob awdurdod a ddylse Estyn gychwyn ar y gwaith yma ar fyrder.
Cwestiwn 5 - Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?
Nac ydyn – o bell ffordd.
Mae methiannau Wrecsam i ddarparu digon o lefydd i ymateb i’r galw yn y sector Gymraeg yn meddwl fod yr iaith yn cael ei thrin yn llai ffafriol drwy fod plant yn cael ei GORFODI i fynd i’r sector Saesneg yn erbyn ei hewyllys. Dydy mynediad i’r sector Gymraeg a Saesneg ddim yn gyfartal.
Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?
Mae angen ymyrraeth frys gan LLC/Estyn yn Wrecsam
Cwestiwn 6 - Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?
Deddfwriaeth newydd i roi dannedd i LLC i ymyrryd lle mae awdurdodau lleol yn methu darparu addysg Gymraeg i ymateb i’r galw.
Cwestiwn 7 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?
Oes, mae na nifer fawr o ohebiaeth wedi bod yn mynd nol ag ymlaen rhwng LLC a CBS Wrecsam ynglyn a’i Strategaeth Cymraeg Mewn Addysg. Mae angen i’r Pwyllgor gael golwg ar y llythyrau yma i gael blas ar y sefyllfa yn Wrecsam.